Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2021
Amser:
08.48 -
12.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12516
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Amelia John, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Llywodraeth Cymru Jonathan Price, Llywodraeth Cymru Nicola Moorhouse, Llywodraeth Cymru Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Sue Leake, Llywodraeth Cymru Amanda Whittle, Llywodraeth Cymru Glyn Roberts, Llywodraeth Cymru Hannah Browne-Gott, Llywodraeth Cymru Rhian Davies, Llywodraeth Cymru Dafydd Meurig, Cyngor Gwynedd Heledd Fflur Jones, Cyngor Gwynedd Gareth Jones, Cyngor Gwynedd |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cafwyd datganiad o fuddiannau perthnasol gan Alun Davies AS a Mabon ap Gwynfor AS.
2 Sesiwn dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i drafod yr adroddiad "Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol"
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6, 7 ac 8 yn y cyfarfod
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn friffio dechnegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol o dan arweiniad swyddogion Llywodraeth Cymru.
5 Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 2
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd
Heledd Fflur Jones, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd
Gareth Jones, Pennaeth Adran cynorthwyol, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).
6.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir).
6.3 Llythyr gan Jonathan Edwards AS ynghylch ystadau o dai anorffenedig ac allanoli rheoli adeiladu
6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Jonathan Edwards AS mewn perthynas ag ystadau o dai anorffenedig a rhoi’r broses o reoli adeiladau ar gontract allanol.
6.4 Llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd i ymateb.
7 Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan eitem 2
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ac at randdeiliaid ar faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.
8 Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a thrafod newidiadau i'w gwneud.
9 Y wybodaeth ddiweddaraf am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a bu’n trafod materion i'w codi yn ei adroddiad drafft.
10 Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.